Gyrfaoedd mewn Gofal Plant

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant, yna dyma’r rhan o’r wefan sy’n berthnasol i chi. Mae’n rhoi syniadau ar gyfer hyfforddiant; dewisiadau cyllido a digonedd o gysylltiadau fel y gallwch ddechrau canfod pa faes o fewn gwaith gofal plant sydd fwyaf addas ar eich cyfer.

Mae cymaint o gymwysterau ar gael i chi gael mynediad atynt; cyn penderfynu pa gymwysterau i’w cymryd gallai fod yn ddefnyddiol cael trosolwg o’r hyn y byddwch yn gallu ei wneud ar ddiwedd pob cymhwyster. Isod ceir trosolwg cyflym; i gael trosolwg mwy manwl gweler Addysg blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae – y fframwaith cenedlaethol o gymwysterau achrededig. Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyflawni Prentisiaeth mewn gweithio gyda phlant bach? Ydych chi’n hoffi pan fo pob diwrnod yn wahanol ac yn cynnig her? Ydych chi’n wrandäwr da sy’n mwynhau gweithio gyda phobl? Ydych chi’n mwynhau gweithio gyda phlant? Os ydych chi, yna fe ddylech chi ystyried gyrfa mewn gofal, dysgu a datblygiad plant. Gall unrhyw un yng Nghymru elwa o Brentisiaethau:

  • Pobl nad ydynt mwyach mewn addysg lawn-amser ac sy’n dymuno ennill arian wrth ddysgu
  • Pobl sydd ar fin gadael yr ysgol neu’r coleg ac sydd â’u bryd ar ddysgu trwy wneud rhywbeth boddhaus
  • Pobl sy’n chwilio am ffordd o gychwyn ar yrfa wych, gyda swyddi ar gael ledled Cymru
  • Pobl sy’n awyddus i ennill y cymwysterau y mae’u hangen i wneud eu swydd bresennol.

I gael mwy o wybodaeth am Brentisiaethau ewch at wefannau Cyngor Gofal Cymru a Gyrfa Cymru

Cyrsiau Lefel 2 (e.e. NVQ, BETEC, CACHE)
Cwrs blwyddyn fel arfer.

· Rhywun sy’n gwarchod plant/ au pair

· Cynorthwyydd mewn crèche

· Gweithiwr Home-Start

· Cynorthwyydd mam

· Cynorthwyydd meithrin

· Cynorthwyydd mewn Gr?p Rhieni/Plant Bach

· Cynorthwyydd mewn lleoliad cyn-ysgol

· Gweithiwr mewn Llyfrgell Deganau

Cyrsiau lefel 3
(e.e. NVQ, BETEC, CACHE)
Cwrs dwy flynedd fel arfer

· Gwarchodwr Plant

· Arweinydd crèche

· Nani

· Nyrs Feithrin (Blynyddoedd Cynnar)

· Goruchwyliwr/ rheolwr meithrinfa

· Arweinydd lleoliad cyn-ysgol

· Cynorthwyydd anghenion addysgol arbennig

· Arweinydd llyfrgell deganau

Cyrsiau Lefel 4
(e.e. NVQ, BETEC, CACHE)

· Ymarferydd uwch

· Swyddog Datblygu

· Rheolwr

eZ publish™ copyright © 1999-2005 eZ systems as