Y Gwasanaeth Ieuenctid
Mae gwefan Gwasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys manylion y prosiectau sydd ar gael, y gwasanaethau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal, ac adran Cwestiynau a Ofynnir yn Aml a llawer mwy. Mae’r gwasanaeth hefyd wedi ychwanegu adran Newyddion at y safle. Yma gallwch aros gyfuwch â’r digwyddiadau diweddaraf, gweithgareddau mewn canolfannau ieuenctid a chyfleoedd sydd ar ddod. Cyn bo hir bydd y gwasanaeth yn ychwanegu adrannau Dolenni Defnyddiol ac Adnoddau i’w Lawrlwytho hefyd, felly cadwch olwg am y rhain.
Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymorol am ddatblygiad sylfaenol a phersonol pobl ifanc 11-25 mlwydd oed.
Mae’n ymdrechu i annog, cynnwys a grymuso pobl ifanc mewn proses ddemocrataidd a phroses benderfynu, a fydd yn eu galluogi i ddod yn ddinasyddion gweithgar yn eu cymuned a’r gymdeithas fyd-eang yn gyffredinol. Mae’r gwasanaeth ieuenctid hefyd yn darparu ystod o gyfleoedd arloesol ac ystod amrywiol o gyfleoedd sy’n diwallu anghenion adnabodedig yr holl bobl ifanc. Trwy waith y Gwasanaeth Ieuenctid mae pobl ifanc yn cael cymorth mewn proses sy’n eu galluogi i ddod yn ddinasyddion a werthfawrogir yn eu cymunedau. Os oes arnoch chi angen gwybod rhywbeth, yn amlach na pheidio bydd arnoch angen ei wybod yr eiliad hon! Mae angen i chi hefyd allu ymddiried yn eich ffynhonnell i roi gwybodaeth ddibynadwy i chi.
I gael mwy o fanylion cliciwch ar y logo
