Amdanom Ni
Datganiad Cenhadaeth
"Bydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwybodaeth ac arweiniad sydd o ansawdd da, yn hygyrch ac yn ddiduedd ynghylch yr ystod lawn o wasanaethau, adnoddau a materion ym maes gwasanaethau gofal plant a’r rheiny’n seiliedig ar anghenion plant a’u teuluoedd, gofalwyr, cyflogwyr, gweithwyr proffesiynol a llywodraethau lleol a chenedlaethol a’u hasiantaethau.”
Y mathau o wybodaeth y gallai’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eu darparu:
Gofal plant a materion eraill sy’n ymwneud â phlant megis bwlio, amddiffyn plant, ymddygiad plant
- Rhianta
- Gweithgareddau hamdden, gwasanaethau addysg a llyfrgelloedd
- Gwasanaethau iechyd, gan gynnwys gwybodaeth am afiechydon a chyflyrau sy’n effeithio ar blant, a’r gwasanaethau cymdeithasol;
- Anghenion arbennig, gan gynnwys grwpiau cymorth ar gyfer rhieni i blant ag anghenion arbennig/anableddau;
- Cyrsiau hyfforddi i weithwyr gofal plant;
- Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith, gan gynnwys deddfwriaeth sy’n effeithio ar gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith;
- Ffynonellau cyllid i rieni a darparwyr gofal plant;
- Llinellau cymorth cenedlaethol a lleol i rieni;
- Mudiadau/sefydliadau plant cenedlaethol a lleol.
Mae dau aelod o staff yn gweithio i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Pen-y-bont ar Ogwr:
|
Gaynor Griffiths |
gaynor.griffiths@bridgend.gov.uk | 01656 815153 |
|
Kerry Gilpin |
kerry.gilpin@bridgend.gov.uk | 01656 815189 |